Er mwyn cadw'ch pleidlais bost, roedd yn rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, ddarparu llofnod ffres erbyn dydd Mawrth 7 Mawrth 2023.
Yn anffodus, ni dderbyniwyd llofnod ffres ac felly mae eich pleidlais bost wedi'i dileu.
Bellach dim ond yn eich gorsaf bleidleisio leol y gallwch bleidleisio yn bersonol.
Cofiwch os ydych yn bwriadu pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, rhaid i chi ddod â ffurf o adnabod ffotograffig gyda chi.
Os ydych am bleidleisio drwy'r post o hyd, gallwch wneud cais am bleidlais bost newydd drwy lenwi'r ffurflen sydd wedi'i amgáu.
I bleidleisio drwy'r post ar gyfer yr etholiadau lleol sydd ar ddod ddydd Iau 4 Mai 2023, rhaid i chi wneud cais am bleidlais bost newydd erbyn 5pm ddydd Mawrth 18 Ebrill 2023.